comisiynau diweddaraf

Preswyliad 2011 Llyfrgell Genedlaethol Cymru / Yr Eisteddfod Genedlaethol

Apply: 
dyddiad cau ceisiadau: 
11.02.2011
disgrifiad: 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC) a’r Eisteddfod Genedlaethol yn awyddus i apwyntio artist preswyl i weithio dros gyfnod o 33 wythnos gyda dwy ysgol yn Wrecsam a’r Drenewydd. Thema eang y gwaith fydd casgliad ffotograffau Geoff Charles, un o drysorau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Cefndir

Hwn fydd y trydydd tro i’r Llyfrgell Genedlaethol gynnal artist preswyl, a’r tro cyntaf iddi weithio mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol ar gynllun o’r fath. Arweiniwyd cynlluniau blaenorol gan Christine Mills yn 2006 a Blue MacAskill yn 2008. Mae gan LLGC raglen estyn allan weithredol sy’n hyrwyddo’i gwasanaethau a’i chasgliadau, gan greu cysylltiadau gydag ysgolion, colegau a’r gymuned ddysgu ehangach led led Cymru. Bob blwyddyn mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cefnogi cynllun artist preswyl gyda’r gymuned leol sy’n diweddu gydag arddangosfa yn Lle Celf yr Eisteddfod ym mis Awst.

Y Preswyliad

Mae dwy ysgol wedi cael eu gwahodd i fod yn rhan o’r preswyliad – Ysgol Uwchradd Clywedog yn Wrecsam ac Ysgol Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd. Bydd yr artist yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Clywedog yn Wrecsam i greu corff o waith fydd yn cael ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Awst 2011. Bydd y gwaith gydag Ysgol Gynradd Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd yn arwain at greu arddangosfa, digwyddiad neu waith gosod yn Y Drenewydd yn Hydref 2011 fel rhan o gynllun estyn allan y Llyfrgell Genedlaethol yn yr ardal.

Bydd y preswyliad yn canolbwyntio ar gasgliad Geoff Charles sy’n cael ei gadw yn y Llyfrgell. Ganed Geoff Charles ger Wrecsam a bu’n gweithio fel ffotograffydd a newyddiadurwr rhwng y 1930au a’r 1970au. Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr gyda’r Western Mail ond dychwelodd i Wrecsam i weithio ar y Wrexham Star. Symudodd i’r Drenewydd i redeg y Montgomeryshire Express ble y cyfarfu â gohebydd ifanc o’r enw John Roberts Williams, a daeth yn ddiweddarach i ddarlunio erthyglau iddo yn Y Cymro. Mae ei waith yn gofnod pwysig o fywyd yng Nghymru rhwng y 1930au a’r 1970au, gan gynnwys agweddau sydd wedi diflannu erbyn hyn – gweision fferm yn byw yn llofft y stabl, y dyn post yn dod â llythyron ar gefn ceffyl, a’r hen chwarelwr yn arddangos y car gwyllt. Mae datblygiad a moderneiddio ardaloedd gwledig, ymgyrchwyr yn brwydro dros hawliau i’r iaith Gymraeg, ac effeithiau mecaneiddio ar fyd amaeth i gyd yn cael eu cofnodi yn ei waith hefyd.

Rhoddodd Geoff Charles 120,000 o negyddion i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac maen nhw i gyd wedi eu cyffwrdd argraffu a’u croesgyfeirio at y cyhoeddiadau y cyhoeddwyd nhw ynddynt gyntaf. Mae modd gweld dros 6,000 o ffotograffau Geoff Charles o gyfnod yr Ail Ryfel Byd ar http://geoffcharles.llgc.org.uk, ac yn y pen draw bydd y mynediad at y casgliad cyfan ar gael drwy wefan y Llyfrgell ar www.llgc.org.uk.

Bydd ei gasgliad yn fan cychwyn ar gyfer yr artist preswyl, ond nid oes yn rhaid i’r preswyliad fod yn un ffotograffig, ac mae’r cyfle hwn yn agored i artistiaid sy’n gweithio gydag unrhyw gyfrwng.

Wrecsam

Un o amcanion y preswyliad yw i’r artist weithio gyda disgyblion Ysgol Clywedog yn Wrecsam drwy gyflwyno gweithdai fydd yn arwain at greu corff o waith i’w arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol eleni. Disgwylir i’r artist ymweld â’r ysgol o leiaf chwe gwaith, ac i ddisgyblion yr ysgol ymweld â’r Llyfrgell hefyd. Bydd Swyddogion Addysg y Llyfrgell yn cefnogi a chynorthwyo’r artist yn ystod yr ymweliad â’r Llyfrgell. Mae gan Wasanaeth Addysg LLGC ystafelloedd pwrpasol ar gyfer cynnal gweithdai ac arddangos deunyddiau gwreiddiol.

Bydd angen i’r artist drafod arddangos gwaith yn y Lle Celf gyda Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod a churadur yr Arddangosfa Arbennig. Mae modd arddangos gwaith 2D, gwaith 3D a fideo o fewn y Lle Celf, a bydd angen i’r artist sicrhau fod unrhyw gostau deunyddiau neu offer sy’n codi o arddangos gwaith yn dod o fewn cyllideb deunyddiau’r cynllun.

Y Drenewydd

Disgwylir y bydd yr artist yn ymweld â’r ysgol o leiaf wyth gwaith yn ystod y preswyliad, ac y bydd yr ysgol yn ymweld â’r Llyfrgell deirgwaith. Bydd Swyddogion Addysg LLGC yn cefnogi a chynorthwyo’r artist yn ystod yr ymweliadau â’r Llyfrgell.

Bydd gwaith yr artist gydag Ysgol Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd yn parhau ar ôl yr Eisteddfod a bydd yn rhan o bresenoldeb y Llyfrgell yn yr ardal yn ystod yr hydref. Nod y gwaith gyda’r ysgol yw sicrhau bod y disgyblion yn gweithio gyda chasgliad Geoff Charles a chynnal gweithdai fydd yn ymateb yn greadigol i’r casgliad. Yr artist fydd yn penderfynu beth fydd canlyniad neu finale’r preswyliad, wedi trafod gyda Swyddogion Addysg y Llyfrgell, ond gall fod yn arddangosfa, digwyddiad neu waith gosod yn y Drenewydd.

Bydd y gwaith yn digwydd ar yr un pryd â Rhaglen Estyn Allan LLGC yn Y Drenewydd, rhaglen sy’n cyrraedd penllanw gyda chyfarfod o Fwrdd y Llyfrgell yn yr ardal ar y 10fed o Dachwedd.

Arddangos yn y Llyfrgell

Yn ogystal ag ymchwilio casgliad ffotograffau Geoff Charles drwy’r deunyddiau gwreiddiol, bydd gan yr artist fynediad at gasgliad y Llyfrgell yn ystod y preswyliad.

Mae gan Wasanaeth Addysg LLGC ofod arddangos bychan fydd ar gael i arddangos gwaith gafodd ei gynhyrchu gan y disgyblion a’r artist ei hun yn ystod y preswyliad. Bydd angen i’r atrist drafod amser addas i arddangos gwaith yn y Llyfrgell gyda Swyddogion Addysg LLGC, boed hynny’n syth ar ôl yr Eisteddfod, neu ar ddiwedd y preswyliad ym mis Tachwedd.

Yr Artist

Mae’r cyfle hwn yn agored i artistiaid sy’n gweithio gydag unrhyw gyfrwng. Efallai y bydd diddordeb arbennig yn y preswyliad gan artistiaid sy’n gweithio gyda ffotograffau, ond rydyn ni hefyd yn awyddus i ddenu artistiaid y mae eu gwaith yn berthnasol mewn modd thematig neu gysyniadol i gasgliad Geoff Charles.

Bydd gofyn bod yr artist yn medru cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gweithio’n effeithiol gyda’r ysgolion.

Gan bod un o’r ysgolion yn ysgol gynradd a’r llall yn ysgol uwchradd, byddai’n ddymunol i’r artist gael profiad o weithio gydag ystod eang o oedrannau. Gall y gweithdai amrywio o ran hyd o un awr i ddiwrnod cyfan, a byddai o fantais felly i’r artist ddangos ei fod yn medru gweithio’n hyblyg ac yn medru defnyddio dulliau amrywiol i gael canlyniadau llwyddiannus.

Mae disgwyl bod gan yr artist gar ei hun neu fynediad at gar.

Yswiriant

Yr artist fydd yn gyfrifol am ei yswiriant ef neu hi ei hun a’i eiddo, a rhaid iddo/iddi gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus am £5 miliwn.

Amserlen

Bydd y preswyliad yn rhedeg o ganol mis Mawrth hyd dechrau mis Tachwedd, 2011.

Cytundeb

Bydd contract gan yr artist gyda’r Llyfrgell am gyfnod o 33 wythnos. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud cais am wiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (www.crb.homeoffice.gov.uk), a thelir costau’r broses hon o gyllideb y cynllun. Bydd angen i’r artist anfonebu’r Llyfrgell am gostau a threuliau, a chynnwys derbynebau. Cytunir ar gyllideb deithio ar gychwyn y contract wedi ystyried ble mae’r artist yn byw. Bydd y gyllideb ddeunyddiau yn cael ei defnyddio ar gyfer y gweithdai a’r arddangosfeydd yn yr Eisteddfod a’r Drenewydd. Bydd angen i’r artist gynnig amlinelliad o sut fydd y gyllideb ddeunyddiau yn cael ei defnyddio, a chytuno ar hyn gyda Gwasanaeth Addysg LLGC.

Mae’r ffi yn cynnwys trethi neu daliadau Yswiriant Gwladol a chyfrifoldeb yr artist fydd datgan unrhyw wybodaeth sydd ei angen ar Gyllid y Wlad o ran arian dderbyniwyd.

Trefn Gweithredu

Byddwn yn creu rhestr fer i gyfweld pedwar neu bump artist, a chynhelir y cyfweliadau ar ddydd Llun 21ain Chwefror. Bydd y panel cyfweld yn cynnwys Rhodri Morgan o LLGC, Cydlynydd Prosiect, Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol, Andrew Parry, Cadeirydd Is-bwyllgor Wrecsam, Mererid Velios, Celfwaith, ac Owen Llywelyn, Uwch Swyddog Addysg LLGC. Yn y cyfweliad bydd yr artistiaid yn rhoi cyflwyniad byr sy’n ehangu ar y wybodaeth yn y ffurflen gais ar sut fydden nhw’n ymdrin â’r preswyliad ac yn gweithio gyda chasgliad Geoff Charles. Ad-delir costau teithio rhesymol i’r cyfweliad. Cynhelir y cyfweliadau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

I wneud cais anfonwch hyd at 20 delwedd o’ch gwaith ar CD fel dogfen powerpoint neu pdf ynghyd â gwybodaeth am y delweddau, a CV sy’n tynnu sylw at brofiad blaenorol. Dylai eich llythyr cais esbonio eich diddordeb yn y cynllun a rhoi amlinelliad o sut fyddech chi’n mynd ati i weithio gyda chasgliad ffotograffau Geoff Charles. Does dim angen cynlluniau pendant am ganlyniadau’r preswyliad yn yr Eisteddfod na’r Drenewydd. Ein diddordeb pennaf yw eich ymdriniaeth neu fethodoleg o archwilio’r casgliad a sicrhau cyfranogiad disgyblion ysgol.

Anfonwch at: Celfwaith, 7 Pontfaen, Caerdydd, CF23 7DU

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn cysylltwch â Rhodri Morgan, Swyddog Addysg, LLGC, 01970 632913 neu rhm@llgc.org.uk

cyllid: 
Ffi’r artist i weithio hanner amser am gyfnod o 33 wythnos fydd £11,550. Ar ben hyn mae cyllideb deithio (telir costau teithio o 40c y filltir) a chyllideb adnoddau.