Caerdydd

Cynllun paentio pont Splott Road

dyddiad cwblhad: 
16/04/2010
artist: 
Andrew Smith
Cynllun paentio pont Splott Road
disgrifiad: 

Cynllun gan yr arlunydd haniaethol o’r gogledd Andrew Smith, yw’r cynllun paentio lliwgar hwn.

Roedd canllaw’r bont reilffordd wedi dirywio, gyda darnau o rwd a phaent yn plisgio, gan roi argraff wael i’r ardal. Sut bynnag, roedd y cynllun i’w hail baentio yn rhan olaf Cynllun Adfywio Cymdogaeth Splott Road, sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o welliannau yn cynnwys cyfnewid y shytrau llwyd ar y siopau, biniau newydd, safleoedd cadw beics a bolardiau a goleuo mwy llachar. Yn ystod ymgynghoriad gyda’r cyhoedd reodd ail-baentio’r bont yn un o’r agweddau mwyaf poblogaidd o’r cynllun adfywio.

Daethpwyd at Celfwaith ym Medi 2009 am gyngor ar sut i gallai artist weithio ar y cynllun ac fe gynigwyd sawl dewis ar gyfer y broses o ddethol artist. Gan fod y cyllid ar gyfer y prosiect yn rhwym yn y flwyddyn ariannol, a hefyd gan fod gan Network Rail restr o gontractwyr paentio penodol, penderfynwyd penodi artist i wneud y cynllun yn unig, gyda rôl oruchwylio yn hytrach nag un weithredol yn cyflawni’r gwaith.

Roedd angen dyluniad fuasai yn ddigon syml i’r contractwyr paentio allu ei wneud yn rhwydd ac a fyddai yn gost-effeithiol i’w gynnal. Penderfynwyd ar balet gyfyng o bum lliw a pharatowyd brîff gan ei anelu at artistiaid oedd yn arfer â chynnwys darnau fflat o liw a ffurfiau syml yn eu gwaith.

Fe apwyntwyd Andrew Smith am ei ddefnydd beiddgar o liw a’i allu i drawsnewid motiffiau ffigyrol o’i amgylch, fel nodweddion pensaernïol neu olygfa tua’r gorwel, yn ffurfiau haniaethol yn ei waith. Bu plant ysgol lleol yn cymryd rhan mewn gweithdai ffotograffiaeth o’u hardal ac fe ddefnyddiwyd y rhain gan Andrew Smith i ysbrydoli ei gynllun.

Mae’r canlyniad yn ddyluniad hanieathol disglair, deinamig gyda chyfeirad yn y motiffiau dyluniol at reiliau, teils cynteddau, a gwaith bric tai Splott yn ogystal â siapiau ellir eu gweld yn y rhan diwydiannol i’r de o Splott.

Yn y cyfryngau:
http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2010/04/19/if-a-job-s-worth...

Sedd Delta Street

dyddiad cwblhad: 
30/03/2010
artist: 
Andrew Rowe, Simon Fenoulhet
Sedd Delta Street
disgrifiad: 

Mae’r fainc drawiadol wnaed yn arbennig i’r safle yn ddyluniad cydweithredol rhwng yr gôf artist a’r cerfluniwr Andrew Rowe â’r artist golau Simon Fenoulhet.

Fe gomisynodd Cyngor Sir Caerdydd y ddau artist i greu y seddi cerfluniol fel rhan o welliannau Delta Street – sydd o bwysigrwydd allweddol o fewn Strategaeth Adfywio Cowbridge Road East. Mae’r cynllun wedi ail-adfer darn o’r ffordd fawr i greu gofod cyhoeddus newydd i gerddwyr yng nghalon ardal siopa brysur Treganna. Yn ogystal â dylunio’r fainc yn arbennig i’r safle fe gydweithiodd yr artistiaid gyda pheirannydd y cynllun a’r swyddog cynllunio ar y siap cyfan ar gyfer y safle ac ar leoliad y coed. Doedd hyn ddim yn orchwyl rhwydd oherwydd fod nifer o wasanaethau o dan y safle yn cynnwys pibell nwy.

Mae siap y fainc ei hun fel dwy ‘C’, un fawr ac un fach yn cyd-blethu. Mae’r siap wedi ei ddylunio i adael i grwpiau o fobl eistedd gyda’i gilydd mewn modd mwy cymdeithasol nag sy’n bosib ar fainc syth arferol. Mae’r ddwy siap ‘C’ ar gantilifrau o’r pwynt canol sy’n pery iddynt edrych fel eu bod yn hofran dros y pafin. Yn y nos, mae golau cuddiedig tu fewn i’r fainc yn rhoi bywyd o’r newydd iddi, yn tanlinellu ei siap a chreu naws atyniadol i economi gyda’r nos Cowbridge Road East.

Mae Delta Street nawr yn bwynt ffocws naturiol ar hyd Cowbridge Road East ac yn fan eistedd poblogaidd gan siopwyr ac i’r rhai sydd ar eu hawr ginio!

Cae Anderson, Adamsdown, Caerdydd

dyddiad cwblhad: 
10/03/2009
artist: 
Andrew Small
Cae Anderson
disgrifiad: 

Yr hyn oedd mewn golwg ar gyfer y prosiect hwn oedd creu allan o gae gwastad gwag barc newydd fyddai'n cynnig amrywiol gyfleusterau chwarae. Dewisiwyd yr artist Andrew Small i gydweithio â'r pensaer tirwedd Ian Maddox ar gynllun y parc, ac i greu strwythurau chwarae.

Cefndir

Hydref 2006 comisiynwyd gan Gyngor Caerdydd adroddiad 'Cyfleoedd i gelf cyhoeddus yn Adamsdown' i unodi cyfleoedd ar gyfer celf cyhoeddus yn Adamsodown. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda'r bobl leol yn Adamsdown dros gyfnod o dri mis ac unododd yr adroddiad safleoedd penodol ynghyd â themau ar gyfer celf cyhoeddus yn cynnwys yr awgrymiadau -:

• Dylai'r gwaith fael ei greu yn unigryw ar gyfer y lleoliad
• Dylai'r gwaith, pa ffurf bynnag a gymer, ymdrechu i fod yn rhyngweithiad mewn rhyw ffordd e.e. celf cinetig, celf cyffyrddol, gwaith sy'n newid
• Na ddylai fod yn ddelwedd draddodiadol o gelf cyhoeddus e.e. cerflun efydd fel y rhai yn Stryd y Frenhines
• Dylai'r gwaith herio ac ysgytio y sawl fydd yn edrych arno, a pheidio ofni gwneud sylwadaeth
• Dylai digon o amser ei gymryd yn y broses o ddatblygu'r gwaith celf i sicrhau y gall ymdeimlad o berchenogaeth ohono dyfu o fewn y gymuned leol

Prosiect

Yn hâf 2007 ymgymeroedd Cyngor Caerdydd â'i proseict o drawsnewid cae gwag yn Adamsdown yn amwynder gwerthfawr i'r gymuned leol.

Apwyntiwyd artist Andrew Small i gydweithio a'r pensaer tirwedd Ian Maddox ar gynllun y parc newydd. Eu tasg oedd gwneud y llain gwastad agored (a ddefnyddiwyd yn bennaf gan bobl yn cerdded cwn, ac yn anaml iawn gan blant yn chwarae) yn barc a chwaraele hyblyg. Cynhaliodd y Cyngor nifer o ddigwyddiadau ymgynghorol i ganfod oddiwrth y gymuned leol beth oeddynt ei eisiau, a beth nad oeddynt am weld o fewn y cynllun.

Ymysg anghenion a chyfyngiadau eraill y mae Andrew Small ac Ian Maddox yn anelu at greu:

• Mannau cysgodol gan fod y cae yn agored i wynt ar adegau
• Man wedi ei neilltio lle gall plant chwarae heb fod cwn yn eu hafonyddu
• Man wedi ei ddynodi i 'gicio o gwmpas' ac yn ddigon o faint i chwarae gem pêl droed, ond yr un pryd yn ddiogel i ddefnyddwyr eraill y parc gerdded o gwmpas
• Cyfarpar chwarae creadigol wedi ei anelu at garfan iau (11 neu lai)
• Llwybrau a seddi fel y gellid defnyddio y parc i gyd.

Y canlyniad yw parc gyda thri phrif randir:
1. Man chwarae diffiniadwy ar y blaen (ar hyd Ffordd Constellation) gyda chyfarpar chwarae wedi ei gynllunio a'i wneud gan Andrew Small ar lawr diogel i blant;
2. Man i gicio o gwmpas yng nghanol y cae gyda chrygyn isel o'i gwmpas ar y naill ochr i ddynodi'r safle a gwachod pobl yn cerdded ar hyd y llwybr rhag cael eu hunain yng nghanol gêm!
3. Man chwarae llai ffurfiol yng nghefn y cae gyda chrygyn uchel yn ymgyffori sleid a chyfarparau erail o'i gwmpas i ddringo, siglo a neidio.

Gan fod Andrew Small wedi datblygu sawl cynllun cysynidol ar gyfer amrywiol gyfarparau chwarae fe'i comisiynwyd i greu dau ohonynt gan ymgynghori â arbenigwyr Iechyd a Diogelwch wrth weithio allan fanylion y cynllun. Yna lluniodd Andrew Small y ddau gyfarpar hyn a'u galw - Y Peiriant Treulio Amser a'r Triffid. Platform pren cyrfeddog yw'r Peiriant Treulio Amswer gyda rhes o fwâu dur di-staen fel tô uwch ei ben. Gall plant ddringo o'r tu mewn a'r tu allan iddo a sleidio a rhedeg i fynny ac i lawr yr arwyneb cyrfeddog. Gall fod yn unrhyw beth y mywnant iddo fod: llong ofod, cwch, ty, cyddfan, twnel, llongdanfor, ogof ac yn y blaen. Mae'n gyfarpar sy'n caniatau i'w dychymyg redeg yn rhydd.

Cyfarpar i ddringo a balansio yw'r Triffid wedi ei wneud o ddur a'i baentio yn las tywyll. Gellir dringo'r tentaclau, siglo arnynt, cerdded ar eu hyd, ac mae'r wyneb meddal ar y llawr yn sicrhau gall y plant fod yn fwy mentrus. Mae'r patrwm lliw ar y llawr yn gwneud y Triffid yn gyflawn a gall fod yn ddefnyddiol wrth chwarae gem.

Ar derfyn dydd dyddiau ysgol fe welwch blant yn gwneud llawn ddefnydd o gae Anderson, tra chyn i'r parc gael ei greu, safle gwag oedd.

Syndicate content