Y Barri

Tarian Gron Swyddfeydd Dinesig Bro Morgannwg

dyddiad cwblhad: 
01/11/2008
artist: 
Charles Gurrey; Gillian Clarke
Tarian Gron Swyddfeydd Dinesig Bro Morgannwg
disgrifiad: 

Yn haf 2008 fe apwyntiodd Cyngor Bro Morgannwg yr artist Charles Gurrey a’r bardd Gillian Clarke i greu tarian gron ar gyfer gofod cyhoeddus newydd o flaen y Swyddfeydd Dinesig.

I’r chwith o’r llwybr sy’n arwain i brif fynedfa’r Swyddfeydd Dinesig o Ffordd Holton mae Cofeb y Morwyr Masnachol ac i’r dde mae man eistedd newydd ar siap hanner cylch. Mae’r darian wedi ei gosod yn y pafin o fewn y man eistedd.

Y brîff i’r artistiaid oedd i greu gwaith celf sydd mewn rhyw fodd yn dehongli cysyniadau dinesig a dinasyddiaeth ac sy’n adlewyrchu’r Barri - y dref a’i dinasyddion. Sut bynnag, roedd rhaid gwneud hyn gyda ychydig eiriau gan fod y gofod yn gyfyng ac yn ychwanegol roedd yn rhaid i’r testun fod yn ddwyieithog. Fe sgrifennodd Gillian Clarke y llinellau cryno canlynol sy’n gwyro gyda’r siap o fewn y cylch

“Severn tides lap Harbour and Knap

Coal, wind and

- our history”

“Llanw a lli a llongau glo

Dros y môr

- ein hanes ni”

Fe ddyluniodd Charles Gurrey y llythrennau, eu gwneud mewn efydd bwrw a’u gosod mewn un darn o wenithfaen. Mae siapiau’r llythrennau yn feiddgar a cherfluniol, cyfoes a hawdd i’w darllen, ac yn gweddu ystyr y testun – balchter Y Barri heddiw yn ei hanes. Mae gan gefndir y llythrennau batina gwyrdd efydd wedi ei heneiddio tra mae’r llythrennau yn sefyll allan mewn efydd lliw aur mwy sgleiniog ond mewn ansawdd wedi ei rwbio sydd hefyd yn datblygu’r patina gwyrdd.

Charles Gurrey

Yn dilyn BA mewn Athronyddiaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yn Rhydychen ac MPhil mewn Athroniaeth yng Nghaergrawnt fe gwblhaodd brentisiaeth pum-mlynedd fel cerfiwr pensaernïol a cherfluniwr addurnol yng ngweithdy Dick Reid yn Efrog. Fe arhosodd yn y gweithdy fel Prif Gynorthwydd hyd 1994 pan ddechreuodd fel cerfiwr pensaernïol a cherfluniwr hunan-gyflogedig. Mae comisiynau Gurrey yn gynnwys nifer o weithiau ar gyfer Eglwys Gadeiriol Efrog, y cynllun cyfan ar gyfer y gwaith carreg ffigyrol ar Dalcen Gorllewinol Eglwys Gadeiriol Guildford, a cherflun ar gyfer Parc Dunorlan yn ymgorffori testun gan Andrew Motion, y Bardd Llawryfog ar y pryd.

Celf ar y palmant ar Ffordd Holton, Y Barri

dyddiad cwblhad: 
25/04/2008
artist: 
Heather Parnell, David Mackie, Andrew Rowe
Palmant Ffordd Holton Y Barri 2
disgrifiad: 

Mae'r prosiect celf cyhoeddus hwn y cyntaf o lawer fydd yn cael eu comisiynnu ar gyfer canol tref y Barri yn ystod y blynyddoedd nesaf fel rhan o ail ddatblygu canol y dref. Mae trawsnewidiad mawr eisioes wedi cymryd lle gyda ailwampio Neuadd y Dref, Sgwar y Brenin a'r Parc Canolog - cyfnod cyntaf y gwaith.

Cwblhawyd strategaeth ar gyfer celf cyhoeddus yng Nghanol tref y Barri gan Celfwaith yn hâf 2007, a'r prosiect celfyddyd palmant hwn yw'r prosiect celf cyhoeddus cyntaf i'w weithredu o'r strategaeth. Roedd ail gyfnod y strategaeth i ledu palmant Ffordd Holton a gosod yna dodrefn stryd newydd i roi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr.

Mae 120 o slabiau palmant gyda chynllun celf wedi ei gyfuno iddynt ar hyd palmant Ffordd Holton wedi eu lleoli ar bob cyffordd. Artistiaid Heather Parnell, David Mackie ac Andrew Rowe ddatblygodd y themau ar gyfer y gwaith celf gyda plant o ddwy ysgol leol - Ysgol Gynradd Ffordd Holton ac Ysgol Iau RC Sant Helen. Ymchwiliwyd siopau ddoe a heddiw â'r hyn a ddangosid yn eu ffenestri, a thynodd y plant luniau pethau a ddychmygent fyddai yn cael ei gwerthu mewn fferyllfa, siop teganau, gringroser, siop nwyddau metel, siop melysfwydydd, siop gwerthu papur ysgrifennu ac yn y blaen a siop ddillad.

Creodd yr artistiaid cynllun terfynol, sydd bron a chael effaith trompe l'oeil i edrych fel bagiau siop wedi ei gollwng ar y llawr gyda'u cynnwys yn syrthio allan ac yn gwasgaru ar draws y palmant. Cerfiwyd y cynllun i mewn i'r palmant a llanw'r llinellau â phaent caled o liw siarcol i edtych yn llythrennol fel lluniau pensil ar y palmant. O fewn pob cynllun mae hefyd eitem mewn cerfwedd efydd, er enghraifft pensil, oren neu bisgedi, i ychwanegu lliw a golau i'r cynllun.

Syndicate content