cerfio carreg

Cofeb John Fielding, Llantarnam

dyddiad cwblhad: 
26/01/2008
artist: 
Teucer Wilson
Cofeb John Fielding
disgrifiad: 

Ar Ionawr 26ain 2008 cafodd Cofeb John Fielding gan Teucer Wilson ei dadorchuddio fel rhan o orymdaith blynyddol John Fielding. Cafodd y gofeb ei dadorchuddio gan Yr Anrhydeddus Faer gyda araith hefyd gan AS Torfaen, Paul Murphy.

Fe wobrwywyd John Fielding gyda Chroes Fictoria am ei weithrediadau yn amddiffyn Rorke’s Drift yn ystod y rhyfel Eingl-Zulu ym 1879. Roedd John Fielding, adnabyddwyd hefyd fel John Williams, yn 21 oed pan fentrodd ei fywyd i achub wyth o filwyr clwyfedig oedd wedi eu dal mewn ysbyty. Tŷ Fielding arferai fod ar y safle ac mae bedd John Fielding ym Mynwent Eglwys St Mihangel, Llantarnam sydd gyferbyn a’r datblygiad tai newydd.

Un llechfaen fawr yw’r cerflun, wedi ei chaboli, ei naddu a’i lythrennu. Roedd yr artist am i’r gwaith, yn ogystal â chofio John Fielding, i weithredu fel teyrnged i ddewrder pawb sydd ynghlwm mewn brwydrau o’r fath. Mae’r gwaith yn barchus tuag at ddewrder a gwroldeb milwyr, ond mae iddo hefyd naws dyrchafol a barddonol. Mae’n waith telynegol sy’n awgrymol o frwydrau mewn termau cyffredinol, yn hytrach na chofnodi ffeithiau unrhyw frwydr arbennig

Mae’r geiriau o emyn Gymreig y Corn Hirlas:
Fill high the blue Hirlas!
That shines like a wave,
When sunbeams are bright,
On the spray of the sea,
And bear thou the rich
Foaming mead to the brave
The Dragons of Battle,
The sons of the Free!

Corn yfed oedd y Corn Hirlas. Roedd yn un hir, glas gyda yml o arian. Pan nad oedd yn cael ei lenwi gyda’r cwrw Cymreig gorau byddai hefyd yn cael ei ddefnyddio fel larwm i seinio rhybudd ar faes y gâd. Mae ysgythriad cerfwedd o gorn uwchben y geiriau.

Ar gefn y lechfaen mae llew wedi ei gerfio, sy’n symbol ar y Groes Fictoria ei hun. Mae’r geiriau ‘Yr hwn sy’n ddewr, sy’n rhydd’ wedi eu cerfio hefyd, ‘he who is brave, is free.’

Comisynwyd y gwaith celf gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen a gwnaed yn bosib trwy nawdd gan Redrow Homes.

Sylw yn y cyfryngau:
Mae’r gwaith a’r dadorchurddiad yn cael sylw ar
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_east/7028604.stm

Celf ar y palmant ar Ffordd Holton, Y Barri

dyddiad cwblhad: 
25/04/2008
artist: 
Heather Parnell, David Mackie, Andrew Rowe
Palmant Ffordd Holton Y Barri 2
disgrifiad: 

Mae'r prosiect celf cyhoeddus hwn y cyntaf o lawer fydd yn cael eu comisiynnu ar gyfer canol tref y Barri yn ystod y blynyddoedd nesaf fel rhan o ail ddatblygu canol y dref. Mae trawsnewidiad mawr eisioes wedi cymryd lle gyda ailwampio Neuadd y Dref, Sgwar y Brenin a'r Parc Canolog - cyfnod cyntaf y gwaith.

Cwblhawyd strategaeth ar gyfer celf cyhoeddus yng Nghanol tref y Barri gan Celfwaith yn hâf 2007, a'r prosiect celfyddyd palmant hwn yw'r prosiect celf cyhoeddus cyntaf i'w weithredu o'r strategaeth. Roedd ail gyfnod y strategaeth i ledu palmant Ffordd Holton a gosod yna dodrefn stryd newydd i roi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr.

Mae 120 o slabiau palmant gyda chynllun celf wedi ei gyfuno iddynt ar hyd palmant Ffordd Holton wedi eu lleoli ar bob cyffordd. Artistiaid Heather Parnell, David Mackie ac Andrew Rowe ddatblygodd y themau ar gyfer y gwaith celf gyda plant o ddwy ysgol leol - Ysgol Gynradd Ffordd Holton ac Ysgol Iau RC Sant Helen. Ymchwiliwyd siopau ddoe a heddiw â'r hyn a ddangosid yn eu ffenestri, a thynodd y plant luniau pethau a ddychmygent fyddai yn cael ei gwerthu mewn fferyllfa, siop teganau, gringroser, siop nwyddau metel, siop melysfwydydd, siop gwerthu papur ysgrifennu ac yn y blaen a siop ddillad.

Creodd yr artistiaid cynllun terfynol, sydd bron a chael effaith trompe l'oeil i edrych fel bagiau siop wedi ei gollwng ar y llawr gyda'u cynnwys yn syrthio allan ac yn gwasgaru ar draws y palmant. Cerfiwyd y cynllun i mewn i'r palmant a llanw'r llinellau â phaent caled o liw siarcol i edtych yn llythrennol fel lluniau pensil ar y palmant. O fewn pob cynllun mae hefyd eitem mewn cerfwedd efydd, er enghraifft pensil, oren neu bisgedi, i ychwanegu lliw a golau i'r cynllun.

Syndicate content