cerflun

Celf ar y palmant ar Ffordd Holton, Y Barri

dyddiad cwblhad: 
25/04/2008
artist: 
Heather Parnell, David Mackie, Andrew Rowe
Palmant Ffordd Holton Y Barri 2
disgrifiad: 

Mae'r prosiect celf cyhoeddus hwn y cyntaf o lawer fydd yn cael eu comisiynnu ar gyfer canol tref y Barri yn ystod y blynyddoedd nesaf fel rhan o ail ddatblygu canol y dref. Mae trawsnewidiad mawr eisioes wedi cymryd lle gyda ailwampio Neuadd y Dref, Sgwar y Brenin a'r Parc Canolog - cyfnod cyntaf y gwaith.

Cwblhawyd strategaeth ar gyfer celf cyhoeddus yng Nghanol tref y Barri gan Celfwaith yn hâf 2007, a'r prosiect celfyddyd palmant hwn yw'r prosiect celf cyhoeddus cyntaf i'w weithredu o'r strategaeth. Roedd ail gyfnod y strategaeth i ledu palmant Ffordd Holton a gosod yna dodrefn stryd newydd i roi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr.

Mae 120 o slabiau palmant gyda chynllun celf wedi ei gyfuno iddynt ar hyd palmant Ffordd Holton wedi eu lleoli ar bob cyffordd. Artistiaid Heather Parnell, David Mackie ac Andrew Rowe ddatblygodd y themau ar gyfer y gwaith celf gyda plant o ddwy ysgol leol - Ysgol Gynradd Ffordd Holton ac Ysgol Iau RC Sant Helen. Ymchwiliwyd siopau ddoe a heddiw â'r hyn a ddangosid yn eu ffenestri, a thynodd y plant luniau pethau a ddychmygent fyddai yn cael ei gwerthu mewn fferyllfa, siop teganau, gringroser, siop nwyddau metel, siop melysfwydydd, siop gwerthu papur ysgrifennu ac yn y blaen a siop ddillad.

Creodd yr artistiaid cynllun terfynol, sydd bron a chael effaith trompe l'oeil i edrych fel bagiau siop wedi ei gollwng ar y llawr gyda'u cynnwys yn syrthio allan ac yn gwasgaru ar draws y palmant. Cerfiwyd y cynllun i mewn i'r palmant a llanw'r llinellau â phaent caled o liw siarcol i edtych yn llythrennol fel lluniau pensil ar y palmant. O fewn pob cynllun mae hefyd eitem mewn cerfwedd efydd, er enghraifft pensil, oren neu bisgedi, i ychwanegu lliw a golau i'r cynllun.

Cae Anderson, Adamsdown, Caerdydd

dyddiad cwblhad: 
10/03/2009
artist: 
Andrew Small
Cae Anderson
disgrifiad: 

Yr hyn oedd mewn golwg ar gyfer y prosiect hwn oedd creu allan o gae gwastad gwag barc newydd fyddai'n cynnig amrywiol gyfleusterau chwarae. Dewisiwyd yr artist Andrew Small i gydweithio â'r pensaer tirwedd Ian Maddox ar gynllun y parc, ac i greu strwythurau chwarae.

Cefndir

Hydref 2006 comisiynwyd gan Gyngor Caerdydd adroddiad 'Cyfleoedd i gelf cyhoeddus yn Adamsdown' i unodi cyfleoedd ar gyfer celf cyhoeddus yn Adamsodown. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda'r bobl leol yn Adamsdown dros gyfnod o dri mis ac unododd yr adroddiad safleoedd penodol ynghyd â themau ar gyfer celf cyhoeddus yn cynnwys yr awgrymiadau -:

• Dylai'r gwaith fael ei greu yn unigryw ar gyfer y lleoliad
• Dylai'r gwaith, pa ffurf bynnag a gymer, ymdrechu i fod yn rhyngweithiad mewn rhyw ffordd e.e. celf cinetig, celf cyffyrddol, gwaith sy'n newid
• Na ddylai fod yn ddelwedd draddodiadol o gelf cyhoeddus e.e. cerflun efydd fel y rhai yn Stryd y Frenhines
• Dylai'r gwaith herio ac ysgytio y sawl fydd yn edrych arno, a pheidio ofni gwneud sylwadaeth
• Dylai digon o amser ei gymryd yn y broses o ddatblygu'r gwaith celf i sicrhau y gall ymdeimlad o berchenogaeth ohono dyfu o fewn y gymuned leol

Prosiect

Yn hâf 2007 ymgymeroedd Cyngor Caerdydd â'i proseict o drawsnewid cae gwag yn Adamsdown yn amwynder gwerthfawr i'r gymuned leol.

Apwyntiwyd artist Andrew Small i gydweithio a'r pensaer tirwedd Ian Maddox ar gynllun y parc newydd. Eu tasg oedd gwneud y llain gwastad agored (a ddefnyddiwyd yn bennaf gan bobl yn cerdded cwn, ac yn anaml iawn gan blant yn chwarae) yn barc a chwaraele hyblyg. Cynhaliodd y Cyngor nifer o ddigwyddiadau ymgynghorol i ganfod oddiwrth y gymuned leol beth oeddynt ei eisiau, a beth nad oeddynt am weld o fewn y cynllun.

Ymysg anghenion a chyfyngiadau eraill y mae Andrew Small ac Ian Maddox yn anelu at greu:

• Mannau cysgodol gan fod y cae yn agored i wynt ar adegau
• Man wedi ei neilltio lle gall plant chwarae heb fod cwn yn eu hafonyddu
• Man wedi ei ddynodi i 'gicio o gwmpas' ac yn ddigon o faint i chwarae gem pêl droed, ond yr un pryd yn ddiogel i ddefnyddwyr eraill y parc gerdded o gwmpas
• Cyfarpar chwarae creadigol wedi ei anelu at garfan iau (11 neu lai)
• Llwybrau a seddi fel y gellid defnyddio y parc i gyd.

Y canlyniad yw parc gyda thri phrif randir:
1. Man chwarae diffiniadwy ar y blaen (ar hyd Ffordd Constellation) gyda chyfarpar chwarae wedi ei gynllunio a'i wneud gan Andrew Small ar lawr diogel i blant;
2. Man i gicio o gwmpas yng nghanol y cae gyda chrygyn isel o'i gwmpas ar y naill ochr i ddynodi'r safle a gwachod pobl yn cerdded ar hyd y llwybr rhag cael eu hunain yng nghanol gêm!
3. Man chwarae llai ffurfiol yng nghefn y cae gyda chrygyn uchel yn ymgyffori sleid a chyfarparau erail o'i gwmpas i ddringo, siglo a neidio.

Gan fod Andrew Small wedi datblygu sawl cynllun cysynidol ar gyfer amrywiol gyfarparau chwarae fe'i comisiynwyd i greu dau ohonynt gan ymgynghori â arbenigwyr Iechyd a Diogelwch wrth weithio allan fanylion y cynllun. Yna lluniodd Andrew Small y ddau gyfarpar hyn a'u galw - Y Peiriant Treulio Amser a'r Triffid. Platform pren cyrfeddog yw'r Peiriant Treulio Amswer gyda rhes o fwâu dur di-staen fel tô uwch ei ben. Gall plant ddringo o'r tu mewn a'r tu allan iddo a sleidio a rhedeg i fynny ac i lawr yr arwyneb cyrfeddog. Gall fod yn unrhyw beth y mywnant iddo fod: llong ofod, cwch, ty, cyddfan, twnel, llongdanfor, ogof ac yn y blaen. Mae'n gyfarpar sy'n caniatau i'w dychymyg redeg yn rhydd.

Cyfarpar i ddringo a balansio yw'r Triffid wedi ei wneud o ddur a'i baentio yn las tywyll. Gellir dringo'r tentaclau, siglo arnynt, cerdded ar eu hyd, ac mae'r wyneb meddal ar y llawr yn sicrhau gall y plant fod yn fwy mentrus. Mae'r patrwm lliw ar y llawr yn gwneud y Triffid yn gyflawn a gall fod yn ddefnyddiol wrth chwarae gem.

Ar derfyn dydd dyddiau ysgol fe welwch blant yn gwneud llawn ddefnydd o gae Anderson, tra chyn i'r parc gael ei greu, safle gwag oedd.

Prosiect Gwau Celf yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

dyddiad cwblhad: 
24/05/2008
artist: 
Jemma Sykes
Prosiect Gwau, Jemma Sykes
disgrifiad: 

Crewyd y gwaith celf a welir yn yr Ardd gan weithdai gyda thri grwp crefft yng Nghwm Afan Uchaf. Ym Mlaengwynfi, Croeserw a Glyncorrwg, gweithiodd aelodau'r tri grwp crefft gyda'r artist Jemma Sykes dros dair wythnos i greu gwaith gwau a chrosio a ysbrydolwyd gan blanhigion yn yr Ardd Fotaneg.

Datganiad yr Artist:

‘ Lluniwyd y garlandau raffia allan o gasgliad o ddarnau a grewyd gan fenywod yng ngrwpiau crefft y Cwm Afan Uchaf. Yr hyn a ysbrydolodd y gwaith oedd ymweliad a'r gerddi: mae eu sylw i fanylion a siapau wedi ei drosglwyddo i'r gwau ar chrosio i greu ffurfiau blodeuog hyn. Dewisiwyd raffia oherwydd ei ansawdd organig sy'n ysgogi harmoni rhwng y grefft a'r planhigion. Mae'r defnydd a'r siapau yn debyg i'r gaseg fedi, tlws i ddynodi lwc dda i ddyfodol y cwm. ’

Ariannwyd y prosiect yn y lle cyntaf gan Gwanwyn. Gwyl genedlaethol sy'n digwydd am fis cyfan ym mis Mai dros Gymru gyfan yw'r Gwanwyn, i ddathlu creadigrwydd pobl mewn oed. Mae'r wyl yn cynnig cyfleoedd i bobl mewn oed i gymryd rhan yn y celfyddydau ac mae'n gyfle i danlinellu a hyrwyddo cyfraniad pobl mewn oed i'r celfyddydau drwy gydol y flwyddyn. Gofal Hendoed Cymru sy'n rhedeg Gwanwyn gyda chymorth sawl mudiad gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a'r BBC. Cefnogwyd y prosiect hefyd gyda grant 'Addysg Bellach i Oedolion' sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop a'i weinyddu gan NIACE. Roedd ymweliad addysgol i'r Ardd Fotaneg gan y grwpiau crefft a'r artist yn bosibl drwy cefnogaeth Groundwork a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol. Derbyniwyd cefnogaeth hefyd gan Ymddiriedolaeth Ford Prydain.

Gwybodaeth am yr Artist:

Astudiodd Jemma Sykes 'Textile Design and Surface Decoration' ym Mhrifysgol Coleg Buckinghamshire, a chafodd Master of Arts mewn 'Constructed Textiles specialising in knit', o'r Royal College of Art. Gwobrwyd y 'Woolmark Trend Prediction,Autumn/ Winter 2003/4'; Worshipful Company of Framework Knitters Bursary 2003; Thames & Hudson a RCA Society Prize ar gyfer Constructed Textiles 2003; TEXPRINT 2003, Prize for Knit gwobrwyd gan Lola Coppini, Gruppo Linieapiu; a Crafts Council Development Award 2004. Mae wedi gweithio'n helaeth yn y diwydiant ffasiwn, ar gyfer Givenchy, Biba, Julien Macdonald, Christian Dior, Lanvin ag eraill. Mae hefyd yn dysgu yn y RCA, Central St Martins, a Prifysgol Coleg Buckinghamshire.

Fireworks Clay Studios - Deng Mlynedd yn Ddiweddarach

dyddiad cwblhad: 
02/03/2009
Fireworks - Deg Mlynedd yn Ddiweddarach
disgrifiad: 

Mae'r arddangosfa yn dathlu degfed penblwydd Stiwdio Clai Fireworks yng Nglanyrafon. Cynrychiolwyd 16 artist, yn cynnwys 3 cyn aelod o'r stiwdio.

Mae'r arddangosfa yn rhoi cipolwg hynod o gyffrous ac amrywiol ar y ffyrdd o ddefnyddio cerameg fel modd o fynegi'n hunain, gwneud sylwadau am gymdeithas as adlewyrchu ar ein gorffennol a'n presennol. Gan ymestyn o'r ymarferol i'r cerfluniol a phopeth rhwng y ddau, mae yna debotiau ymarferol a rhai sy'n gerfluniau. O ddiddordeb Virgina Graham yn y modd y crynhown, y casglwn ac yr arddangoswn lestri tsienia sydd naill ai yn werthfawr drwy fod yn hen bethau neu sydd o werth sentimentalaidd yn unig, hyd at ddiddordeb Lisa Krigel yn y modd y mae priodas fel digwyddiad wedi mynd yn garnifal dros ben llestri sy'n ddi-chwaeth. Mae amrywiaeth yn y deunyddiau a'r technegau a ddefnyddir, gan ymestyn o'r porslen puraf i'r terracotta mwyaf priddlyd ac a droi olwyn mewn modd greddfol hyd at slipgastio mewn modd trefnus. Ond mae yna gyfrwng cymysg hefyd gyda gwrthrychau y daethpwyd o hyd iddynt, plu, hoelion, plastig a rhaffau a ddefnyddir ar y cyd â chlai. Mae ysbrydoliaeth pob artist yn unigryw ac yn bersonol, yn amrywio o ddylanwadau hunangofiannol i ymdrin â materion hanesyddol a gwleidyddol neu ymateb i’r deunydd ei hun.

Artistiaid yn yr arddangosfa:
Daniel Allen, Sam Bakewell, John Blackwell, Kelly Campbell, David Cushway, Lowri Davies, Anne Gibbs, Virginia Graham, Lisa Krigel, Nick Lees, Sara Moorhouse, Emma Parker, Matthew Rowe, Caroline Taylor, Matthew Thompson, Gemma Wilde.
Curadwyd yr arddangosfa gan Mererid Velios a mae catalog ar gael.

Agorwyd yr arddangosfa yn Oriel y Bont, Prifysgol Glamorgan, Pontypridd ar y 5ed o Dachwedd 2007.

Mae'r arddangosfa yn teithio i'r lleoedd canlynol:
Canolfan Celf Llantarnam, Cwmbran - Ionawr 12fed i Mawrth 1af;
Leicester City Art Gallery - Mawrth 15ed i Mai 7fed;
Oriel Myrddin, Caerfyrddin - Gorffennaf 26ain i Medi 6ed;
Black Swan and Bath Spa College - Hydref 9ed i Tachwedd 10ed;
Eton College - Ionawr 26ain i Mawrth 2il 2009;
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth;
Oriel Howard Gardens, UWIC Caerdydd.

Ariannwyd yr arddangosfa gan Cyngor Celfyddydau Cymru

Syndicate content